CELG(4) WPL 10

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

Ymchwiliad i Uwch Gynghrair Cymru

Ymateb gan Robin Evans

 

Gweinyddu’r Uwch Gynghrair

 

Er y ceir sylw yn aml fod yr Uwch Gynghrair yn allweddol i bêl-droed Cymru, ymddengys nad yw’r drefn o weinyddu’r Uwch Gynghrair, nac o wneud penderfyniadau, yn cyflawni’r hyn y byddai nifer o gyfundrefnau tebyg yn eu disgwyl o safbwynt bod yn gynhwysol, democrataidd a thryloyw a bod hynny’n groes i wir fuddiannau’r Uwch Gynghrair, y  clybiau unigol a’r cyhoedd.

 

Y Gwreiddiau

 

Mae ambell stadiwm/cae wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd ond ymddengys nad oes strategaeth glir i godi safonau caeau/stadiymau yr Uwch Gynghrair, gan gynnwys diffyg cefnogaeth ariannol.

 

Mae nifer o academïau clybiau’r Uwch Gynghrair yn gwneud gwaith da iawn ond a ydynt hwy’n colli darpar chwaraewyr oherwydd grym system Lloegr?  Rhaid gofyn hefyd a oes strategaeth weithredol ar gyfer codi safon pêl-droed ar bob lefel yng Nghymru?

 

Cafwyd gwelliant mawr yn y darpariaeth dwyieithog gan y Gymdeithas Bêl-droed (FAW) dros y blynyddoedd diwethaf ond a oes strategaeth o safbwynt hyrwyddo dwyieithrwydd/normaleiddio’r iaith  ar bob lefel e.e. o safbwynt dogfennaeth cofrestru chwaraewyr ar y naill law i ddarpariaeth y clybiau lle mae sylwadau dros uchel seinydd mewn gemau dan sylw, ar y llall?

 

Clybiau’r Uwch Gynghrair

 

Mae’n amlwg i safonau ar y cae godi dros y blynyddoedd a hynny’n rhannol oherwydd proffesiynoldeb rhai clybiau ac ymgais eraill i godi i’r safon hwnnw.  Ond erys y cwestiwn pa gymorth bydd y Gymdeithas Bêl-droed yn gallu ei roi i sicrhau proffesiynoldeb y clybiau a chlybiau proffesiynol? 

 

Torfeydd: Y cynnydd yn y gefnogaeth i un neu ddau o glybiau sydd wedi sicrhau bod canran y torfeydd yn codi, ond y gwir yw nad yw’r clybiau drwyddynt draw wedi llwyddo i gynyddu torfeydd yn lleol y sylweddol.  Mae angen strategaeth gan y Gymdeithas Bêl-droed yn benodol, a’r Uwch Gynghrair a’r clybiau unigol i gynyddu torfeydd.

 

Y Cyfryngau

 

Ar y cyfan methiant fu’r strategaeth i godi proffil yr Uwch Gynghrair a rhaid gofyn i ba raddau mae hynny yn fai'r Gymdeithas Bêl-droed a’r Uwch Gynghrair ei hun? 

 

Er hynny, nid oes dim dwywaith bod sylw yn cael ei roi i’r Uwch Gynghrair ond ei fod yn fratiog iawn ac yn deillio o’r agwedd mai eilbeth yw Uwch Gynghrair Cymru o’i gymharu â system Lloegr ar y naill law a rygbi ar y llaw arall.  Eto mae sawl enghraifft o sylw sylweddol ac felly torfeydd sylweddol mewn rhai gemau oherwydd agwedd uniongyrchol y cyfryngau - ond yn anffodus mae rhai problemau creiddiol y mae’n rhaid eu datrys:

 

Methiant  darlledwyr Prydeinig i osod Cymru ar yr un lefel â phêl-droed yr Alban parthed adrodd ar gemau

 

ITV Wales yn anwybyddu Uwch Gynghrair Cymru yn llwyr

 

BBC Cymru/Wales ac S4C.  Fe nodwyd uchod fod rhaid canmol sawl elfen o’r ddarpariaeth ond mae’n anghyson iawn e.e. wrth adrodd ar ganlyniadau Radio Cymru/Wales cawn wybod pwy sy’n sgorio i holl glybiau Uwchgynghrair Lloegr ond nid yn Uwch Gynghrair Cymru.  A yw Uwch Gynghrair Cymru yn cael ei weld fel cynghrair cenedlaethol ac a ddylai gemau’r Uwch  Gynghrair gael yr un sylw ag Abertawe /Caerdydd yn system Lloegr? 

 

Y wasg yng Nghymru

 

Ymddengys fod y sylw mewn papurau lleol yn dd iawn.  O safbwynt y pedwar papur newydd cenedlaethol – Y Cymro, Golwg, Daily Post a’r Western Mail – yna’r olaf yw’r mwyaf siomedig o bell ffordd.

 

Ac ar lefel y wasg Brydeinig - ceisiwch chi gael hyd i ganlyniadau Uwch Gynghrair Cymru yn y Guardian/Observer gan gynnwys eu fersiynau ar lein, er enghraifft.

 

Ewrop

 

Os cafwyd llwyddiant cymharol yn Ewrop yna ai yw hi’n deg dweud mai oherwydd ymdrechion unigol clybiau ac nid oherwydd y Gymdeithas Bêl-droed mae hynny?  Rhaid gofyn sut y mae’r  Gymdeithas Bêl-droed/Uwch Gynghrair am:

godi safonau clybiau Cymru yn gyffredinol?

eu cynorthwyo wrth baratoi am y frwydr Ewropeaidd flynyddol yn benodol?

 

Onid oes lle i gynnal cystadleuaeth i’r clybiau cyn i’r daith i Ewrop gychwyn e.e. pob un o’r pedwar clwb yn chwarae yn eu tro yn erbyn Tîm dan 21 Cymru a dau o dimau gwledydd llai cyfandir Ewrop e.e. Real Sociedad (gan ddod a thimau ieuenctid efo nhw er mwyn hyrwyddo cyfnewid diwylliannol hefyd).  Byddai hyn yn help i baratoi ond hefyd yn denu torfeydd.

 

Pa gymorth ariannol/gweinyddol/ymarferol mae’r Gymdeithas Bêl-droed yn ei roi i’r clybiau wrth chwarae yn Ewrop?

 

Y Cynulliad Cenedlaethol

 

Beth ddylai’r berthynas rhwng y Gymdeithas Bêl-droed a’r Cynulliad fod?  Digon hawdd yw i awdurdodau rhyngwladol ddatgan na ddylai gwleidyddion ymyrryd ond os yw gweithredoedd/maes gorchwyl Gymdeithas Bêl-droed cenedlaethol yn destun sbort yna rhaid wrth ymyrryd.

 

Clybiau Cymunedol/Busnesau Lleol

 

Ymddengys i safon bêl-droed yn Norwy godi oherwydd i ŵyr busnes sylweddoli bod buddsoddi yn y clybiau yn gallu ennyn elw sylweddol wrth drosglwyddo chwaraewyr dawnus i wledydd eraill.  A oes modd datblygu clybiau’r Uwch Gynghrair fel busnesau cymunedol proffesiynol gyda chwaraewyr proffesiynol - ar gontractau canolog er enghraifft - yn gweithio o fewn eu cymunedau wedi eu hariannu gan y Gymdeithas Bêl-droed a’r pwrs cyhoeddus?  Y nod fyddai sicrhau clybiau fyddai’n weithredol, yn flaengar ac yn fyrlymus o fewn eu cymunedau ond hefyd gyda chynllun busnes gyda’r nod o wneud elw drwy feithrin chwaraewyr i’w trosglwyddo i glybiau mawrion.

 

Clo

Os am godi safonau Uwch Gynghrair Cymru yna rhaid wrth weledigaeth sydd yn ymateb i, ac yn manteisio ar, ein sefyllfa benodol ni yma yng Nghymru - a hynny drwy gydweithrediad  amrywiol bartneriaethau gan gynnwys Llywodraeth Cymru.